The Tabernacle Morriston Choir was formed in 1876 and is the second longest established mixed choir still performing in Wales.
The choir has sung in many venues throughout the country, including The Royal Albert Hall, St. David’s Hall Cardiff, Llandaff Cathedral, The Brangwyn Hall Swansea as well as its regular performances at the famous Tabernacle Chapel, Morriston. The choir has performed many times for Radio 3, Radio Cymru, BBC1 and BBC2. The choir was the first Welsh choir to appear on BBC2 singing Bloch’s Sacred Service with the late Sir Geraint Evans. The choir has made a number of overseas tours. The first was a visit to Brussels in 1992, Hungary in 1994 to take part in a performance of Belshazar’s Feast, Pau, Swansea’s French twin town, in 1997 and Vienna in 2000. The choir takes great pride in encouraging young singers embarking on a professional career such as Bryn Terfel, Rebecca Evans, Jason Howard, Richard Allen, Natalya Romaniw, Janet Watson and numerous others. In recognition of this, it was a great honour when Bryn Terfel, who has sung with the choir many times, agreed to become the choir’s Life Patron. |
About Tabernacle Morriston choir
|
Ffurfiwyd Côr Tabernacl Treforys ym 1876, a’r côr sefydledig ail – hynaf yng Nghymru sy’n dal i berfformio ydy Côr y Tabernacl.
Mae'r côr wedi canu mewn llawer o leoliadau amrywiol led - led y wlad, gan gynnwys Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Neuadd Y Brangwyn, Abertawe yn ogystâl a 'i berfformiadau rheolaidd yng Nghapel enwog Y Tabernacl, Treforys. Mae'r côr wedi canu droeon ar Radio 3, Radio Cymru, BBC 1, a BBC 2. Côr Y Tabernacl oedd y côr Cymreig cyntaf i ymddangos ar BBC 2, yn canu Gwasanaeth Cysegredig Bloch, gyda'r diweddar Syr Geraint Evans. Mae sawl taith dramor wedi bod. Ymweliad a Brwsel oedd y tro cyntaf ym 1992, wedyn Hwngari ym 1994 i gymryd rhan mewn perfformiad o Wledd Belshazar. Ym 1997, aeth y côr i Pau, gefeilldref Abertawe, ac ar ôl hynny i Vienna yn 2000. Mae'r côr yn falch iawn i roi cyfle i gantorion ifanc sy'n dechrau ar yrfa broffesiynol - rhai megis Bryn Terfel, Rebecca Evans, Jason Howard, Richard Allen, Natalya Romaniw, Janet Watson a llu o rai eraill. Mewn cydnabyddiaeth o hyn, roedd yn anrhydedd mawr i ni pan gytunodd Bryn Terfel, sy wedi canu gyda'r côr nifer o weithiau, i fod yn Llywydd Oes Côr Tabernacl Treforys. |